CROESO I YSGOL PLAS BRONDYFFRYN

Ysgol Plas Brondyffryn ydy canolfan ragoriaeth Gogledd Cymru ar gyfer addysgu plant ar y sbectrwm awtistig. Mae’n disgyblion yn dod o bob rhan o Ogledd Cymru – y rhan fwyaf yn teithio’n ddyddiol, ond rhai eraill yn manteisio ar ein cyfleusterau preswyl, Gerddi Glasfryn.

Rydyn ni’n falch iawn o’n hysgol a’n nod ydy darparu amgylchfyd hapus lle mae disgyblion yn cael eu meithrin i gyrraedd eu llawn botensial. Mae gweledigaeth yr ysgol – “Y gorau y gelli fod” yn un sy’n wirioneddol bwysig a pherthnasol inni ac mae’n treiddio trwy ethos yr ysgol ar bob safle.

Yn Ysgol Plas Brondyffryn, credwn mai dim ond trwy gydweithrediad clos rhwng y cartref a’r ysgol y mae modd cael y gorau allan o’ch plentyn ac i’ch plentyn. Heb fewnbwn a chyfraniad rhieni, mae’n tasg ni, heb os, gymaint â hynny’n anoddach. Mae Ysgol Plas Brondyffryn yn ymdrechu i gyflawni ei hamcanion trwy bartneriaeth gref rhwng llywodraethwyr, staff, disgyblion a rhieni.

Mr David Price

Pennaeth dros dro